Huna blentyn ar fy mynwes Clyd a chynnes ydyw hon; Breichiau mam sy'n dynn amdanat, Cariad mam sy dan fy mron; Ni chaiff dim amharu'th gyntun, Ni wna undyn â thi gam; Huna'n dawel, annwyl blentyn, Huna'n fwyn ar fron dy fam. Paid ag ofni, dim ond deilen Gura, gura ar y ddôr; Paid ag ofni, ton fach unig Sua, sua ar lan y môr; Huna blentyn, nid oes yma Ddim i roddi iti fraw; Gwena'n dawel yn fy mynwes Ar yr engyl gwynion draw.